Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Mawrth 2020
Amser:
13.04 -
16.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5886
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Delyth Jewell AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Neil Hemington, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Alan Brace, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Nick Selwyn Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Bu'r Aelodau'n holi Andrew Slade, John Howells a Neil Hemington fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru.
3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon copïau o ganllawiau Cymorth Cynllunio Cymru at y Pwyllgor.
3.3 Dywedodd y Cadeirydd wrth y tystion y byddai'n ysgrifennu atynt gan ofyn y cwestiynau na chafodd eu gofyn yn ystod y cyfarfod.
4.1 Holodd yr Aelodau Dr Andrew Goodall ac Alan Brace fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
4.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon nodyn yn cynnwys enghreifftiau o fentrau a phrosiectau sy'n helpu i reoli’r broses o leoli staff asiantaeth, a hynny fel rhan o weithgarwch ehangach ar gynllunio'r gweithlu.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Gan fod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod yn y cyfarfod nesaf.
7.1 Gan fod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod yn y cyfarfod nesaf.